Welsh Ambulance Services University NHS Trust
Chief Executive Officer
Attractive Salary
This job post will be advertised for a minimum period of two weeks on LinkedIn. After this time please apply directly to https://join-wast.co.uk/ until the closing date of 9am Monday 16th June 2025.
About Us
The Welsh Ambulance Services University NHS Trust (WAST) plays a critical role in the delivery of urgent and emergency care across Wales, serving a population of more than three million people across a diverse and geographically complex nation. From urban centres to remote rural communities, our dedicated workforce of more than 4,500 staff and volunteers delivers a range of vital services, including emergency response, non-emergency patient transport, and NHS 111 Wales.
As a national ambulance service, WAST operates at the heart of the Welsh health and care system, collaborating with health boards, local authorities, and emergency services to provide safe, responsive, and compassionate care. We are also at the forefront of system-wide innovation, leading efforts to improve access, digital connectivity, and integrated care across the urgent and emergency care pathway.
The Opportunity
We are seeking an exceptional, values-driven Chief Executive Officer to lead our organisation at a time of significant opportunity and challenge. The successful candidate will work in close partnership with the Board, executive team, Welsh Government, and health and care partners to deliver on our strategic vision of delivering quality driven, clinically led and value-focussed services.
The Chief Executive Officer will provide inspirational and visible leadership to a committed and highly skilled workforce, driving improvements in service quality, patient outcomes, staff experience, and organisational performance. They will take overall responsibility for WAST’s strategic direction, financial sustainability, and operational delivery—ensuring the Trust continues to respond effectively to the evolving health needs of Wales.
This is a unique opportunity to lead a national NHS organisation and shape the future of urgent and emergency care in one of the UK’s most innovative and integrated healthcare systems. We are looking for a proven senior leader with experience of leading complex organisations—ideally in healthcare or public services—who can deliver service transformation, champion inclusion, and build trusted relationships across sectors.
The successful candidate will demonstrate strategic vision, system leadership, and a deep understanding of the pressures facing health and care services. With a strong commitment to staff well-being, equity, and organisational culture, they will foster an environment where people feel supported, valued, and empowered to do their best work.
This role requires a collaborative, compassionate, and resilient leader who can inspire confidence, navigate complexity, and drive change. If you are passionate about public service, share our values, and are ready to lead WAST into its next chapter, we would be delighted to hear from you.
To learn more about us and this exceptional role, please visit our dedicated microsite by clicking Apply.
For a confidential discussion, please contact:
Steven Levin, Researcher E: steven.levin@gatenbysanderson.com T: +44 (0) 7586 702578
Melanie West, Senior Consultant E: melanie.west@gatenbysanderson.com T: +44 (0) 7384 464 187
Closing date for applications: 9am Monday 16th June 2025
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Prif Weithredwr
Cyflog Deniadol
Amdanon ni
Mae Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“yr Ymddiriedolaeth”) yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu gofal brys a gofal mewn argyfwng ledled Cymru, gan wasanaethu poblogaeth o fwy na thair miliwn o bobl ar draws gwlad amrywiol a chymhleth yn ddaearyddol. O ganolfannau trefol i gymunedau gwledig anghysbell, mae ein gweithlu ymroddedig o fwy na 4,500 o staff a gwirfoddolwyr yn darparu ystod o wasanaethau hanfodol, gan gynnwys ymateb brys, cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, a GIG 111 Cymru.
Fel y gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol, mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithredu wrth galon system iechyd a gofal Cymru, gan gydweithio â byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a gwasanaethau brys i ddarparu gofal diogel, ymatebol a thosturiol. Rydym hefyd ar flaen y gad o ran arloesi ar draws y system, gan arwain ymdrechion i wella mynediad, cysylltedd digidol, a gofal integredig ar draws y llwybr gofal brys a gofal mewn argyfwng.
Y Cyfle
Rydym yn chwilio am Brif Weithredwr eithriadol, sy’n cael eu gyrru gan werthoedd, i arwain ein sefydliad mewn cyfnod o gyfle a her sylweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r Bwrdd, y tîm gweithredol, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid iechyd a gofal i gyflawni ein gweledigaeth strategol o ddarparu gwasanaethau sydd wedi’u harwain gan glinigwyr, sy’n canolbwyntio ar ansawdd, ac wedi’u gyrru gan werth.
Bydd y Prif Weithredwr yn darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig a gweladwy i weithlu ymroddedig a medrus iawn, gan ysgogi gwelliannau o ran ansawdd gwasanaethau, canlyniadau i gleifion, profiad y staff a pherfformiad sefydliadol. Byddant yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am gyfeiriad strategol, cynaliadwyedd ariannol a chyflawniad gweithredol yr Ymddiriedolaeth—gan sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i ymateb yn effeithiol i anghenion iechyd esblygol Cymru.
Mae hwn yn gyfle unigryw i arwain un o sefydliadau cenedlaethol y GIG ac i siapio dyfodol gofal brys a gofal mewn argyfwng yn un o systemau gofal iechyd mwyaf arloesol ac integredig gwledydd Prydain. Rydym yn chwilio am uwch arweinydd profedig sydd â phrofiad o arwain sefydliadau cymhleth—yn ddelfrydol ym maes gofal iechyd neu wasanaethau cyhoeddus—sy’n gallu trawsnewid gwasanaethau, hyrwyddo cynhwysiant, a meithrin perthnasoedd dibynadwy ar draws sectorau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos gweledigaeth strategol, arweinyddiaeth system, a dealltwriaeth ddofn o’r pwysau sy’n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal. Gydag ymrwymiad cryf i lesiant staff, tegwch a diwylliant sefydliadol, byddant yn meithrin amgylchedd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u grymuso i wneud eu gwaith gorau.
Mae’r swydd hon yn gofyn am arweinydd cydweithredol, tosturiol a gwydn sy’n gallu ennyn hyder, ymdrin â chymhlethdod a gyrru newid. Os ydych chi’n angerddol am wasanaeth cyhoeddus, yn rhannu ein gwerthoedd, ac yn barod i arwain Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i’w phennod nesaf, byddem wrth ein bodd yn cael clywed gennych.
I ddysgu mwy amdanom ni a’r swydd eithriadol hon, ewch i’n micro-wefan bwrpasol: https://join-wast.co.uk/
I gael trafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â:
Steven Levin, Ymchwilydd
E: steven.levin@gatenbysanderson.com
Ff: +44 (0) 7586 702578
Melanie West, Uwch Ymgynghorydd
E: melanie.west@gatenbysanderson.com
Ff: +44 (0) 7384 464 187
Yn ogystal â’ch cais (CV a datganiad ategol), mae gofyn i ymgeiswyr recordio fideo tair munud yn ymateb i’r pwnc canlynol:
- Fy nghymhelliant wrth wneud cais am y swydd hon.
Gallwch recordio eich fideo drwy ddilyn y ddolen hon:
Mae’r dyddiad cau ar gyfer yr ymatebion fideo yr un fath â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch cais (CV a datganiad ategol): 9am dydd Llun 16 Mehefin 2025.
Mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i recordio’r ymateb fideo ar gael drwy’r ddolen. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â Mickala Da-Silva, Uwch Gydlynydd Prosiect, a fydd yn hapus i’ch cynorthwyo: mickala.da-silva@gatenbysanderson.com / 0207 426 3988.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am dydd Llun 16 Mehefin 2025
Proses Ddewis Derfynol (sesiynau rhanddeiliaid rhithiol a chyfweliadau terfynol wyneb yn wyneb): w/d i’w gadarnhau