We’re Recruiting – Sustainability Adviser (Welsh language)
Passionate about sustainability and creating real impact? Join our team as a Sustainability Adviser and help drive change through expert advice and engaging training.
In this role, you’ll be supporting our Head of Training and Advice to develop and deliver the charity’s sustainability training and advice products and services. This involves:
- Managing clients and the delivery and evaluation of sustainability training and advice services (40%)
- Delivery and development of training and advice services in a bilingual context (50%)
- Business and product development (10%)
- You’ll play a key role in helping individuals and organisations benefit from our expertise—while growing our reach, income, and impact as a forward-thinking charity.
We are a lively and progressive charity at an important stage in our development. If our mission resonates and you share our aims, we would love to hear from you.
Post Title: Sustainability Adviser (Welsh Language)
Salary: Band 3 – £30,001-35,000 pro rata. (We are looking to appoint at £31,000)
Duration: 12 months initially, with probation period of 3 months, and potential to make permanent.
Hours: 30 hours per week (4 days) / flexible working
Location: Hybrid – Cardiff office / home and client sites. Expectation is at least 25% of the week (1 day) is based during core days in the office.
Please visit our website for more information on the role and how to apply.
-----------------------
Rydym yn Recriwtio – Cynghorwr Cynaliadwyedd
Ydych chi’n frwd dros gynaliadwyedd a chreu effaith go iawn? Ymunwch â’n tîm fel Cynghorydd Cynaliadwyedd a helpu i sbarduno newid drwy gyngor arbenigol a hyfforddiant diddorol.
Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi ein Pennaeth Hyfforddiant a Chyngor i ddatblygu ac i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau hyfforddiant a chyngor cynaliadwyedd yr elusen. Bydd hyn yn golygu:
- Rheoli cleientiaid a darparu a gwerthuso gwasanaethau hyfforddi a chynghori cynaliadwyedd (40%)
- Darparu a datblygu gwasanaethau hyfforddi a chynghori mewn cyd-destun dwyieithog (50%)
- Datblygu busnes a chynnyrch (10%)
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu unigolion a sefydliadau i elwa o’n harbenigedd—ar yr un pryd â chynyddu ein cyrhaeddiad, ein hincwm a’n heffaith fel elusen flaengar.
Rydym yn elusen fywiog a blaengar ac rydym mewn cyfnod pwysig yn ein datblygiad ar hyn o bryd. Os yw ein cenhadaeth yn taro tant a’ch bod chi’n rhannu’r un nodau â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Teitl y Swydd: Cynghorwr Cynaliadwyedd
Cyflog: Band 3 – £30,001-35,000 pro rata. (Rydym yn gobeithio penodi ar £31,000)
Hyd: 12 mis i ddechrau, gyda chyfnod prawf o 3 mis, a’r posibilrwydd o’i gwneud yn barhaol.
Oriau: 30 awr yr wythnos (4 diwrnod) / gweithio’n hyblyg
Lleoliad: Hybrid – Swyddfa Caerdydd / gartref a safleoedd cleientiaid. Disgwylir y bydd o leiaf 25% o’r wythnos (1 diwrnod) yn digwydd yn y swyddfa yn ystod diwrnodau craidd.